Arestio tri wedi achos o drywanu yn Y Rhath, Caerdydd

Trywannu Rhath Image copyright Twitter/CF24News
Image caption Cafodd heddlu arfog, dau ambiwlans a meddyg eu galw i'r digwyddiad

Mae'r heddlu wedi arestio tri o bobl arall mewn cysylltiad â thrywanu yng Nghaerdydd.

Cafodd swyddogion arfog o Heddlu De Cymru eu galw i Inverness Place yn ardal Y Rhath am tua 19:40 nos Sul, wedi adroddiadau o drywanu.

Mae'r dynion 18, 28 a 63 oed sydd yn y ddalfa yn cael eu hamau o ymosod.

Wedi'r digwyddiad nos Sul, cafodd dynion 17 a 23 oed eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael eu trywanu, yn ogystal â dyn 26 oed oedd ag anafiadau tebyg.

Image copyright Twitter/CF24News

Mae'r tri dyn gafodd eu hanafu bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae dyn 35 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad bellach wedi'i ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol