Gordon Brown a Chelsea Clinton i annerch Gŵyl y Gelli

Chelsea a Bill Clinton Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Chelsea Clinton, merch y cyn-arlywydd Bill Clinton, yn siarad yn yr ŵyl

Mae trefnwyr Gŵyl y Gelli wedi cyhoeddi rhai o'r enwau fydd yn siarad ac yn annerch yn yr ŵyl lenyddol eleni.

Mae'r siaradwyr yn cynnwys awdur y llyfr sy'n rhoi cip tu ôl i'r llenni ar arlywyddiaeth Donald Trump, Michael Wolff, cyn-Brif Weinidog Prydain, Gordon Brown, yr anturiaethwr Bear Grylls, merch cyn-Arlywydd yr UDA Bill Clinton, Chelsea, a'r actores Rose McGowan.

Bydd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove, yn cyflwyno sgwrs am gynaliadwyedd a dyfodol ffermio.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal o 24 Mai i 3 Mehefin yn Y Gelli Gandryll, Powys.

Bydd dros 600 o westeion yn ymddangos mewn 800 o ddigwyddiadau, gan gynnwys perfformiadau cerddorol a digwyddiadau comedi.

Dywedodd cyfarwyddwr y ŵyl, Peter Florence, fod "yr ansicrwydd a'r argyfyngau sy'n wynebu'r byd, yn golygu bod angen clywed y lleisiau doethaf, nid y lleisiau uchaf".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol