Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Maidstone

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Shaun Pearson yn sgorio ei bumed gôl y tymor hwn

Roedd yna fuddugoliaeth i'r Dreigiau adref ar y Cae Ras ddydd Sadwrn yn erbyn Maidstone.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Andy Davies - rheolwr newydd Wrecsam a buddugoliaeth anodd oedd hi.

Roedd cryn rwystredigaeth yn yr ail hanner wrth i'r Dreigiau deimlo'r angen i sgorio a chipio'r tri phwynt pwysig cyn diwedd y tymor.

Roedd Scott Quigley bron â rhoi'r cochion ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond tarodd ei beniad y bar.

Da iawn, capten

Erbyn yr ail hanner roedd Maidstone yn codi eu gobeithion ac yn dod yn agos iawn at sgorio sawl gwaith.

Ond fe ddyfalbarhaodd Wrecsam ac fe beniodd Shaun Pearson(y capten) i rwyd Maidstone o gic gosb gan Kelly.

Fe ddaeth y gôl hollbwysig gyda chwarter awr o'r gêm yn sbâr.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam i'r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol a'u lle yn y gemau ailgyfle yn dod yn fwy a mwy sicr.

Y sgôr terfynol 1-0 i Wrecsam - newyddion da i'r rheolwr newydd, y chwaraewyr a'r cefnogwyr.