Pro14: Gleision 35-17 Ulster

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Ymunodd Ray Lee-Lo â'r Gleision yn 2015

Y Gleision oedd yn fuddugol ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn a hynny wedi iddynt drechu y Gwyddelod o 18 pwynt.

Roedd yna gyffro o fewn dwy funud i ddechrau'r gêm a hynny wrth i Jarrod Evans wibio heibio'r amddiffyn a sgorio cais a bu trosiad Evans hefyd yn llwyddiannus gan roi'r tîm cartref ar y blaen 7-0.

Cic gosb wedyn i'r Gwyddelod (Cooney) ond o fewn munudau cais arall i'r Gleision gan Blaine Scully gyda chymorth gan Matthew Morgan a Tomos Williams ac roedd trosiad Evans unwaith eto yn llwyddiannus ac felly dyblwyd sgôr y Gleision i 14-3.

Dwy gic gosb cyn diwedd yr hanner cyntaf - un yr un i'r naill dîm ac felly y sgôr ar yr hanner oedd 17-6.

Dwy gic gosb lwyddiannus arall i Cooney ar ddechrau'r ail hanner (17-12) ond yna achubiaeth i'r Gleision wedi cais gan Kristian Dacey (22-12).

Gêm dda i Jarrod Evans

Methiant fu trosiad Evans ond fe gafodd ddwy gic gosb lwyddiannus yn fuan wedyn (28-12).

Cais i'r Gwyddelod (David Shanahan) wedyn ond er mawr lawenydd i gefnogwyr y tîm cartref, a oedd wedi'u cynddeiriogi braidd gan iddynt gredu fod Ulster yn camsefyll, roedd yn gais arall i'r Gleision wedi chwarae crefftus Jarrod Evans a Dillon Lewis.

Unwaith eto roedd cicio Evans yn gywir a'r sgôr terfynol oedd Y Gleision 35, Ulster 17.

Bydd y ddau dîm yn chwarae nesaf yng Nghaeredin - y Gleision yn chwarae yno ddydd Sadwrn nesaf yng nghystadleuaeth Cwpan Her Ewrop ac fe fydd Ulster yn wynebu'r Albanwyr y dydd Gwener canlynol yn y Pro14.