Pro14: Dreigiau 17-29 Cheetahs

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Ashton Hewitt sgoriodd unig gais yr hanner cyntaf

Mae'r Dreigiau wedi chwarae 13 gêm heb ennill yn y Pro14 bellach ar ôl cael eu trechu gan y Cheetahs yn Rodney Parade nos Wener.

Cais yr asgellwr Ashton Hewitt oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn yr hanner cyntaf, gyda'r Dreigiau ar y blaen 10-3 ar yr egwyl.

Ond tarodd y Cheetahs 'nôl yn yr ail hanner gyda dau gais gan Sibahle Maxwane ac un gan Fred Zeilinga.

Daeth y Dreigiau yn ôl i'r gêm trwy gais y bachwr Elliot Dee cyn i'r ymwelwyr selio pwynt bonws gyda chais Clayton Blommetjies.

Pynciau Cysylltiedig