Achub paragleidiwr yn sownd mewncgoeden ger Llangollen

Paragleidiwr Image copyright @newsar

Mae'r gwasanaethau brys wedi achub paragleidiwr aeth yn sownd mewn coeden brynhawn Mawrth.

Fe gafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r digwyddiad yn Llangollen am 12:30, ac fe gafodd ambiwlans a hofrennydd eu gyrru i'r lleoliad.

Cadarnhaodd yr awdurdodau fod dyn lleol wedi ei ddal ar ben coeden yng nghoedwig Tyn Dŵr, wedi iddo orfod glanio ar frys.

Cafodd ei ryddhau am 15:30 a'r gred yw nad yw'r dyn wedi dioddef anafiadau difrifol.