Lori yn taro pont rheilffordd yn Y Drenewydd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Paul Williams
disgrifiad o’r llunMae disgwyl i'r A489 fod ar gau am rai oriau er mwyn symud y lori

Mae lori i wedi taro pont rheilffordd yn Y Drenewydd, gan achosi oedi enfawr i drafnidiaeth a threnau.

Fe wnaeth y lori droi ar ei ochr ar ôl taro pont Nantoer rhwng Heol Vaynor a Ffordd Mochdre ar ffordd yr A489.

Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ac roedd oedi ar wasanaethau trên rhwng y Drenwydd a Chaersws ar llinell Aberystwyth i Amwythig.

Roedd disgwyl oedi ar y gwasanaethau trên nes 10:45.

ffynhonnell y llun, Paul Williams