Gyrrwr beic cwad wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4413 rhwng Llanbedrog a Mynytho

Mae gyrrwr beic cwad wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn nos Sul.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad ar y B4413 rhwng Llanbedrog a Mynytho toc wedi 19:00.

Ychwanegon nhw mai'r beic cwad oedd yr unig gerbyd oedd yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad.

Fe gafodd y dyn ei hedfan mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke, ond bu farw.

Bu'r ffordd ar gau am bum awr tra bo'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r heddlu'n apelio i unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un welodd y beic cwad yn gyrru ar hyd y B4413 cyn y digwyddiad, i gysylltu â nhw.