Ken Owens
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Owens: 'Hapus iawn 'da'r canlyniad'

17 Mawrth 2018 Diweddarwyd 20:19 GMT

Gorffen yn ail yn y bencampwriaeth oedd y nod, medd y bachwr Ken Owens, wedi i Gymru guro Ffrainc o 14 pwynt i 13 yn Stadiwm Principality.

Roedd y canlyniad yn ddigon i wneud hynny, y tu ôl i Ffrainc a drechodd Lloegr i gipio'r Gamp Lawn.

Er ei fod yn cydnabod fod yna elfennau i'w gwella yn chwarae Cymru, dywedodd Owens ei fod yn falch o'r canlyniad.