Gwyn Jones
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Cwestiynau i Gymru wedi'r Chwe Gwlad'

17 Mawrth 2018 Diweddarwyd 20:08 GMT

Llwyddodd Cymru i orffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth yn erbyn Ffrainc.

Roedd hi'n gêm glos serch hynny, gyda'r ddwy ochr yn ildio pwyntiau a gwneud camgymeriadau.

Y sgôr terfynol oedd Cymru 14-13 Ffrainc

Tra'n falch fod Cymru wedi gorffen yn ail, mae yna gwestiynau i'w hateb am dactegau a dewisiadau Warren Gatland yn ôl y cyn-gapten, Gwyn Jones.