Chwe Gwlad: Merched Cymru 3-38 Merched Ffrainc

Wales Women v France Image copyright Huw Evans Agency

Colli oedd hanes Merched Cymru yng ngêm ola'r Chwe Gwlad wrth i Ffrainc sicrhau'r Gamp Lawn gyda buddugoliaeth o 38-3 ym Mae Colwyn.

Sgoriodd yr ymwelwyr chwe chais, wrth i Gymru lwyddo i sgorio un gic gosb yn unig.

Pauline Bourdon, Caroline Drouin, Jessy Tremouliere, Agathe Sochat a Carla Neisen sgoriodd ceisiau Ffrainc, gyda'r dyfarnwr hefyd yn rhoi cais gosb am drosedd gan Jaz Joyce.

Bydd rhaid i Gymru aros tan ddydd Sadwrn, pan mae'r Alban yn chwarae'r Eidal, i wybod lle y byddan nhw'n gorffen yn y tabl.