Penodi Mark Hughes yn rheolwr newydd Southampton

Mark Hughes

Mae clwb pêl-droed Southampton wedi cyhoeddi mai Mark Hughes fydd eu rheolwr tan ddiwedd y tymor.

Mae'r Cymro 54 oed yn olynu Mauricio Pellegrino, gafodd ei ddiswyddo gan y Seintiau ddydd Llun, wrth i'r tîm frwydro i aros yn yr uwchgynghrair.

Dim ond un fuddugoliaeth maen nhw wedi ei sicrhau yn eu 17 gêm ddiwethaf, gydag wyth gêm gynghrair yn weddill o'r tymor.

Mae Hughes wedi bod yn ddi-waith ers iddo gael ei ddiswyddo gan Stoke ym mis Ionawr.

Cyn hynny, bu'n rheolwr ar Queens Park Rangers, Fulham, Manchester City a Blackburn Rovers.

Fe chwaraeon Hughes i Southampton rhwng 1998 a 2000, tuag at ddiwedd ei yrfa fel chwaraewr.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol