Bws ar dân ar yr A470 ym Merthyr Tudful

Bws Image copyright Andrew O'Leary

Mae diffoddwyr wedi bod yn delio â thân ar fws ar yr A470 ym Merthyr Tudful.

Mae lluniau'n dangos fflamau'n gorchuddio blaen y cerbyd, ond dywedodd y gwasanaeth tân nad oes unrhyw un wedi'u hanafu.

Fe wnaeth gyrrwr y bws alw'r gwasanaethau brys toc cyn 08:00 ac fe lwyddon nhw i ddiffodd y fflamau.

Does dim gwybodaeth eto ynglŷn ag os oedd unrhyw un yn teithio ar y bws ar y pryd.

Image copyright Gavin O'Connor
Image caption Y difrod gafodd ei achosi yn sgîl y tân

Pynciau Cysylltiedig