Adran Dau: Yeovil 0-2 Casnewydd

Paul Hayes o Gasnewydd Image copyright Asiantaeth Luniau Huw Evans
Image caption Paul Hayes o Gasnewydd yn amddiffyn y bêl rhag dau o chwaraewyr Yeovil

Mae Casnewydd wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Ionawr wrth iddyn nhw guro Yeovil ar eu tomen eu hunain.

Fe roddodd cyn-chwaraewr canol cae Abertawe, Josh Sheehan yr ymwelwyr ar y blaen ychydig ar ôl hanner amser, cyn i Paul Hayes sicrhau'r fuddugoliaeth yn munud ola'r gêm.

Dywedodd rheolwr Casnewydd, Mike Flynn, wrth y BBC eu bod nhw "wrth eu boddau" a'u bod "wedi bod yn disgwyl buddugoliaeth fel hon ers tro", ac y dylen nhw fod wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf hefyd.

Mae'r Alltudiaid yn codi i'r 11eg safle yn Adran Dau, bum pwynt yn unig oddi ar safleoedd y gemau ail-gyfle.