Mab yn achub ei dad oddi ar Ynys Môn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Mab 13 oed yn achub ei dad oddi ar arfordir Ynys Môn

9 Mawrth 2018 Diweddarwyd 12:50 GMT

Mae dyn yn dweud bod ei fab 13 oed wedi achub ei fywyd wrth roi triniaeth CPR iddo wedi i'w caiac droi drosodd oddi ar arfordir Ynys Môn.

Aeth Paul Rowlands, 50, a'i fab, Joe, i drafferthion ger Ynys Dulas fis diwethaf a cheisio nofio i'r lan.

Ond fe wnaeth Mr Rowlands lewygu, a dywedodd bod ei fab wedi llwyddo i'w lusgo ar y creigiau a rhoi triniaeth CPR iddo er rmwyn ei adfywio.