Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ar yr M4

Gwrthdrawiad
Image caption Bu lôn orllewinol yr M4 yn ardal Casnewydd ar gau am oriau

Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ar lôn orllewinol yr M4 yn agos i dwneli Brynglas.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5:10 fore Iau wedi adroddiadau bod gwrthdrawiad wedi bod rhwng sawl cerbyd a cherddwr.

Mae dau berson yn Ysbyty Brenhinol Gwent ond dyw eu hanafiadau ddim yn rhai sy'n peryglu eu bywydau.

Cafodd lôn orllewinol yr M4 ei chau am rai oriau wrth i'r gwasanaethau brys ddelio â'r digwyddiad, ond mae bellach wedi ailagor.

Image copyright Traffig Cymru
Image caption Fe achosodd y digwyddiad dagfeydd hir fore Iau

Pynciau Cysylltiedig