Sut mae bywyd menywod wedi newid?

Ifanwy Williams Image copyright Lee Karen Stow
Image caption Ifanwy Williams

Pan anwyd Ifanwy Williams yn Lerpwl yn 1922 roedd newid mawr ar droed. Roedd hi'n bedair blynedd ers i ferched ennill yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf ac roedd y Rhyfel Mawr, oedd newydd ddod i ben, wedi newid popeth.

Fel heddychwraig ar hyd ei hoes, mae hi'n un o sylfaenwyr ymgyrch Heddwch Nain/Mam-gu sy'n cofio deiseb dros heddwch a lofnodwyd gan ferched Cymru yn 1923-24.

Ymddeolodd Ifanwy fel gweithiwr cymdeithasol yn 1981 ac mae hi'n byw ym Mhorthmadog ac yn 96 mlwydd oed.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2018 gofynnodd Cymru Fyw iddi hel atgofion am y pethau sydd wedi siapio'r newidiadau i fenywod dros y ganrif ddiwethaf.


  • "Un o'r pethau sydd wedi eu colli wrth bod merched a dynion yn trïo bod ar yr un lefel ydy cwrteisi: gadael ichi fynd drwy'r drws o'u blaenau nhw, codi cap a phethau felly - yn wahanol i rai pobl dwi'n licio'r hen steil!
  • "Y peth arall sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr ydy'r bilsen - bod merched yn medru dewis sut maen nhw'n gwneud defnydd o'u cyrff."
  • "Ysgol i ferched yn unig oedd yr ysgol yr adeg honno ac roedd yr athrawon i gyd yn ferched di-briod. Os oeddach chi'n priodi, roeddach chi'n colli'ch swydd. Dim ond rhyw 10 mlynedd oddi ar ddiwedd y Rhyfel Mawr oedd hi pan gychwynais i'r ysgol - tybad nag oedd yr athrawon di-briod hynny wedi colli cariadon neu wŷr?"
  • "Cyn fy amser i, roedd yn ddewis rhwng gyrfa a phrodi, ond mi ges i fynd i'r brifysgol i astudio fel gweithiwr cymdeithasol. Roedd y rhan fwyaf ar y cwrs yn ferched - roedd y math o waith yn apelio atyn nhw."
  • "Mi wnaeth yr Ail Ryfel Byd roi cyfle i ferched mewn ffatrïoedd, ar y tir, yn yr AF, ond roeddwn i'n un o'r gwrthwynebwyr. Roedd pobl yn edrych yn hyll iawn arna i"
  • "Mi es i weithio oherwydd prinder arian - roedd fy ngŵr yn weinidog ac roedd y tâl yn dila iawn. Dwi'n credu mod i'n un o'r gwragedd gweinidog cyntaf i weithio. Pan glywodd aelodau'r capel fod gwraig y gweinidog yn gweithio, roeddan nhw mewn sioc. Doeddan nhw'n methu deall ac yn gweld bai arna i - dim i fy wyneb ond dwi'n gwybod nad oeddan nhw'n cydweld o gwbl.
  • "Mater o anghenrhaid oedd parhau i weithio. Mi gafodd fy ngŵr salwch creulon iawn ac roedd yn gorfod rhoi'r gorau i'w eglwys. Fi oedd yr un oedd yn dod â'r arian i fewn. Roedd yn straen magu a gweithio ac efo'r gŵr yn wael - roedd yn amser reit bryderus."
  • "Mae gorfodaeth ar ferched i weithio erbyn hyn oherwydd bod rhaid i'r gŵr a'r wraig rhyngddyn nhw dalu morgej.
  • "Mi wnes i ddod yn rhan o grwp Heddwch Nain/Mam-gu oherwydd mod i wedi bod yn heddychwr ar hyd yr amser. Mi ddaru 2,000 o ferched orymdeithio i ddangos eu gwrthwynebiad i'r Rhyfal Mawr yn 1926.
  • "Mae'r ddau beth - mudiad y syffrajets a'r gwragedd ddaru gerdded dros heddwch - yn cyd-redeg hyd y gwela i. Roeddan nhw wedi cael colledion, roedd erchylltra'r rhyfel mawr a beth oedden nhw wedi ei ddioddef, wedi eu hysgogi nhw."