Chwe Gwlad: 10 newid i dîm Cymru i wynebu'r Eidal

James Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd y blaenasgellwr James Davies yn ennill ei gap cyntaf yng Nghaerdydd ddydd Sul

Mae Warren Gatland wedi gwneud 10 newid i dîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Bydd Taulupe Faletau yn gapten wrth iddo ddychwelyd o'i anaf i chwarae am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni.

Fe fydd y blaenasgellwr James Davies yn ennill ei gap cyntaf a bydd George North hefyd yn dychwelyd i'r 15 fydd yn dechrau'r gêm.

Bydd canolwr y Gweilch, Owen Watkin yn dechrau ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dim ond Liam Williams, Steff Evans, Hadleigh Parkes, Gareth Davies a Cory Hill sy'n cadw eu lle o'r tîm ddechreuodd y gêm ddiwethaf yn Nulun.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dadansoddiad Cennydd Davies, gohebydd rygbi BBC Cymru, o'r tîm

Dywedodd Gatland: "Mae hyn yn gyfle gwych i Taulupe, mae'n chwaraewr arbennig a phrofiadol, a bydd hyn yn fudd i'w ddatblygiad ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn dangos ei gryfderau fel arweinydd.

"Rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau, ond rydym yn dod a llawer o safon a phrofiad i'r tîm gyda Bradley Davies, Justin Tipuric, George North a Taulupe."

Tîm Cymru

Liam Williams; George North, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Steff Evans; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Nicky Smith, Elliot Dee, Tomas Francis, Cory Hill, Bradley Davies, Justin Tipuric, James Davies, Taulupe Faletau (c).

Eilyddion: Ken Owens, Rob Evans, Samson Lee, Seb Davies, Ellis Jenkins, Aled Davies, Rhys Patchell, Leigh Halfpenny.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Taulupe Faletau yn gapten wrth iddo chwarae am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni

Straeon perthnasol