Lluniau: Cân i Gymru 2018

Mae'r cystadlu wedi dod i ben yng nghanolfan Pontio ym Mangor wrth i'r gân 'Cofio Hedd Wyn' ddod i'r brig yn Cân i Gymru 2018.

Roedd Cymru Fyw yno'n dyst i'r cyfan. Dyma rai o uchafbwyntiau'r noson...


Image caption Y criw buddugol tu ôl i'r gân 'Cofio Hedd Wyn'

Image caption Y perfformwyr yn llwyddo i fwynhau eu hunain gefn llwyfan

Image caption Y cyflwynwyr Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur wrthi'n ymarfer yn y prynhawn

Image caption Dyma leoliad y gystadleuaeth heno, canolfan Pontio ym Mangor

Image caption Roedd cefnogwyr Mared Williams ym Mangor 'en masse'
Image caption Y Cowboi Aled Wyn Hughes, cyfansoddwr 'Ysbrydion', yn cuddio'n y cysgodion gefn llwyfan...

Hefyd o ddiddordeb:


Image caption Y bytholwyrdd Mei Gwynedd, un o'r cerddorion cefndirol ar y llwyfan

Image caption Pheden. Tesni o Pheena a Non o Eden oedd y lleisiau cefndirol ar y noson

Image caption Brodyr go iawn? Y cyfansoddwr Owain Glenister a Ragsy, canwr 'Ti'n Frawd i Mi'

Image caption Ie, hi! Hana Evans, o Sully, yn perfformio ei chân 'Dim Hi' mewn môr o binc

Image caption Y cyfansoddwr Gwynfor Dafydd a'r canwr Steffan Rhys Hughes yn rhyfeddu ar rai o sylwadau #CiG2018?

Image caption Dafydd Dabson a'i fam Anna Georgina, cyfansoddwyr 'Dwi'm yn Dy Nabod Di'

Ymunwch yn y drafodaeth ar Twitter drwy ddefnyddio #CiG2018

Pynciau Cysylltiedig