1,000 o deiars yn llosgi mewn tân yn Sir Caerffili

tan Image copyright Louise Johnston

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr fynd i'r afael â thân yn cynnwys tua 1,000 o deiars oedd wedi ymledu i adeilad yn Sir Caerffili.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod 25 o ddiffoddwyr o Aberbargoed, Caerffili a Phontypridd wedi bod yn taclo'r fflamau, ddechreuodd yn iard Nydda ym Mhengam.

Roedd y tân o dan reolaeth erbyn 13.00.

Fe gafodd trigolion ac ysgolion lleol gyngor gan yr awdurdodau i gadw eu ffenestri a drysau ynghau oherwydd pryderon am effeithiau mwg o'r tân.

Dywedodd Emily Blackwell, sy'n byw'n lleol, bod y mwg wedi clirio erbyn 14.50 a'r ffordd wedi ail agor.

Image copyright EMILY BLACKWELL