Adran Dau: Port Vale 0-0 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae rhediad diguro Casnewydd yn parhau wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal yn Port Vale brynhawn Sadwrn.

Mae'r clwb o dde Cymru bellach wedi chwarae naw gêm heb yr un fuddugoliaeth.

Y tîm cartref aeth agosaf at sgorio yn yr hanner cyntaf, gydag ergyd Michael Tonge yn taro'r postyn.

Ond yr ymwelwyr gafodd y gorau o'r ail hanner, gyda'r golwr Ryan Boot yn gorfod arbed yn dda i gadw ergyd Frank Nouble o'r rhwyd.