Ymosodiad Rhuthun: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio

Stryd Clwyd, Rhuthun Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Clwyd, Rhuthun, am 01:45 fore Sadwrn

Mae dyn 21 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Rhuthun yn oriau man fore Sadwrn.

Fe wnaeth Connor Hooley, o Rhuthun, ymddangos mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llandudno.

Mae Christopher Lloyd, 36, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad ar Stryd Clwyd.

Cafodd Mr Hooley ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fis nesaf.

Mae dynes 21 oed gafodd ei harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Straeon perthnasol