Casnewydd 0-0 Notts County

Casnewydd a Notts County Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi ennill eu pwynt cyntaf mewn pedair gêm wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Notts County.

Roedd hi'n edrych yn addawol i'r Alltudion yn yr hanner cyntaf ond wnaethon nhw ddim llwyddo i fanteision ar y cyfleoedd.

Daeth Jorge Grant yn agos i'r ymwelwyr.

Fe rwydodd Joss Labadie i gefn y rhwyd i Gasnewydd ond chafodd hi ddim ei derbyn wedi trosedd yn erbyn Adam Collin.

Mae Casnewydd yn parhau yn y 12fed safle.