Gwrthdrawiad lori graeanu: Dynes mewn cyflwr difrifol

Lori graeanu
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger gwaelod Heol Eglwys Fair

Mae dynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori graeanu yng nghanol Caerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y cerbyd wedi taro'r ddynes, oedd ar feic, ar Heol y Tollty am 21:20 nos Iau.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ble mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Bu ffyrdd yn yr ardal ar gau dros nos wrth i'r gwasanaethau brys ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliad ac y byddan nhw hefyd yn edrych ar yr amgylchiadau yn ymwneud â'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig