Chilli: Cogydd yn ddieuog o ymosod ar gwsmer

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cogydd yn taflu powdr chilli ar gwsmer mewn bwyty

Mae cogydd wedi'i gael yn ddieuog o ymosod ar gwsmer wedi iddo daflu powdr chilli i'w lygaid yn dilyn ffrae am safon pryd o fwyd.

Fe wnaeth Kamrul Islam, 47, daflu'r powdwr chilli ar David Evans, 47, ym mwyty'r Prince of Bengal yn Nhonypandy ym mis Ionawr 2017.

Roedd Islam wedi gwadu cyhuddiad o ymosod gan achosi niwed corfforol, gan ddadlau ei fod wedi bod yn amddiffyn ei hun.

Fe wnaeth y rheithgor yn Llys y Goron Merthyr Tudful gytuno a'i gael yn ddieuog o'r ymosodiad.

Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd y cogydd Kamrul Islam wedi dadlau ei fod yn amddiffyn ei hun

Roedd Mr Evans wedi bod yn y bwyty gyda'i wraig pan gwynodd am safon y bwyd y cawson nhw.

Clywodd y llys bod Mr Islam wedi ffraeo gyda'r cwpl cyn i Mr Evans ei ddilyn i'r gegin.

Dywedodd Mr Islam iddo daflu'r powdr ar ôl i Mr Evans greu dwrn gyda'i law fel petae'n paratoi i'w daro.

Mae'r fideo yn dangos Mr Evans yn dal ei wyneb, a dywedodd wrth y llys iddo ddioddef llosgiadau ar ei wddf, ei wyneb a'i frest.

Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd rhaid i David Evans gael triniaeth ysbyty wedi'r digwyddiad

Dywedodd Mr Islam wrth y llys bod y ffrae yn un "danllyd" a bod ganddo "lawer o archebion yn dod i mewn".

Ychwanegodd ei fod wedi siarad gyda'r cwpl wrth eu bwrdd ar ôl iddyn nhw gwyno, ac yna wedi dychwelyd i'r gegin gyda Mr Evans yn ei ddilyn.

"Roedd gen i ddealltwriaeth ei fod yn mynd i fy nharo i," meddai.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol