Lluniau: Mae'r eira'n dal yma!
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n mwynhau'r eira? Dyma ddewis o'ch lluniau ar 7 Chwefror.
Anfonwch eich lluniau chi ar Twitter @BBCCymruFyw, neu trwy anfon e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk
Ffynhonnell y llun, Sarah Thomas
Yr haul yn codi dros Llanycefn, Sir Benfro
Wel? I ba gyfeiriad ewch chi heddiw?
"Mam! Rwy 'di clirio'r eira o'r ardd." Yr eira'n drwch yn Waunfawr heddiw
Ffynhonnell y llun, Cai Phillips
Mae gan Cai Phillips waith clirio i'w wneud cyn mentro am Ysgol Bro Myrddin.
Roedd yn rhaid i Ffion Emlyn fod yn ofalus wrth yrru o Feddgelert i Fangor
Wedd hi'n wêr ar y mini yn Mynachlog-Ddu, Sir Benfro wedi i drwch ychwanegol o eira syrthio dros nos.
Eira'r Preselau
Ffynhonnell y llun, Sarah Thomas
Ydy hi'n ddoeth rhoi'r dillad i sychu ynte' fydd 'na ragor o eira?