Dau ddyn yn euog o ladd tad ar stryd yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Sean Kelly yn yr ysbyty dridiau wedi'r ymosodiad

Mae un dyn wedi'i gael yn euog o lofruddiaeth ac un arall o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth tad yng Nghaerdydd y llynedd.

Cafodd Sean Kelly, 37, ei drywanu yn ei goes yn ardal Sblot yn oriau mân y bore ar 13 Gorffennaf, a bu farw o'i anafiadau dridiau'n ddiweddarach.

Roedd Aaron Bingham, 18 o ardal Tremorfa, a Nicholas Saleh, 46 o Adamsdown, yn gwadu llofruddio Mr Kelly.

Ond cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth - Bingham o lofruddiaeth a Saleh o ddynladdiad.

Clywodd y llys bod y ddau ar feiciau ar y pryd, a'u bod wedi erlid Mr Kelly ar hyd Heol Theodora gydag arfau.

Fe wnaeth Bingham ei drywanu yn ei goes, gan dorri prif wythïen ac achosi i Mr Kelly golli llawer o waed.

Roedd Bingham yn mynnu ei fod yn amddiffyn ei hun, tra roedd Saleh yn honni ei fod yn yr ardal ar y pryd ond nad oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu'n ddiweddarach ym mis Chwefror.