Y Gymraes gafodd ei hethol cyn i ferched ennill y bleidlais

Gwenllian Morgan
Image caption Cafodd Gwenllian Morgan ei hethol yn Faer Aberhonddu yn 1910, y ddynes gyntaf i ddal y swydd yng Nghymru

Roedd hi'n frwydr hir ond ganrif i 'leni fe enillodd menywod yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf. Ond wyddoch chi bod Cymraes o'r canolbarth wedi llwyddo i gael ei hethol ymhell cyn y garreg filltir arloesol yn 1918?

Bron i wyth mlynedd ynghynt cafodd Gwenllian Morgan ei hethol yn Faer ar dref Aberhonddu. Nid pawb oedd wrth eu boddau bod merch wedi ennill un o swyddi mwyaf dylanwadol llywodraeth leol ar y pryd.

Dr Neil Evans, o'r Ysgol Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n olrhain yr hanes rhyfeddol a'r frwydr yng Nghymru i sicrhau'r bleidlais am y tro cyntaf i rai merched dros 30 oed.


Roedd merched yng Nghymru yn frwdfrydig iawn yn yr ymgyrchoedd i ennill y bleidlais i ferched yn ystod y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar y cyfan, ymunodd y rhan fwyaf ohonyn nhw â'r National Union of Women's Suffrage Societies, o dan arweinyddiaeth Millicent Garret Fawcett.

Ymunodd eraill â'r Women's Social and Political Union - sefydliad llawer mwy milwriaethus dan arweiniad Emmeline Pankhurst a'i merched Christabel a Sylvia.

Roedd rhain yn gweithredu'n fwy uniongyrchol. Roedden nhw, er enghraifft, yn amharu ar gyfarfodydd, malu ffenestri ac yn achlysurol, gosod bomiau. Rhain oedd y suffragettes sy'n cael eu portreadu yn y ffilm Suffragette (2015)

Image caption Golygfa o'r ffilm 'Suffragette'

Protestio chwyrn

Amrywiodd y gweithredoedd ymosodol. Yn 1912 amharodd criw o ferched ar anerchiad David Lloyd George i gynulleidfa'r Pafiliwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, drwy weiddi a phoeri arno, cyn cael eu llusgo oddi yno gan yr heddlu.

Image caption 'The Suffragette' o 1913 - yr un flwyddyn gafodd Rachel Barrett ei harestio am weithio arno

Yn ystod haf 1913, roedd straeon am yr ymgyrchu yn flaenllaw ym mhapurau newydd Cymru. Un oedd bod y Foneddiges Margaret Mackworth, merch y perchennog pyllau glo DA Thomas, wedi cael ei harestio am roi bocs post yng Nghasnewydd ar dân.

Roedd Rachel Barrett o Gaerdydd hefyd yn ymddangos yn y papurau - cafodd ei harestio am fod yn rhan o'r tîm oedd yn cyhoeddi'r papur newydd 'The Suffragette'. Roedd hi'n ymgyrchydd milwriaethus blaenllaw ac fe gafodd ei charcharu, ble ymprydiodd. Wedi iddi gael ei rhyddhau, parhaodd i gyhoeddi'r papur newydd.

Ochr arall y protestio

Fodd bynnag, yr un pryd, roedd merched eraill o Gymru yn cymryd rhan mewn pererindodau heddychlon i Lundain - yn cerdded, beicio, marchogaeth a mynd mewn car a chert i Lundain ar gyfer cyfarfod torfol yn Hyde Park.

Ar hyd y ffordd, roeddyn nhw'n cynnal cyfarfodydd mewn pentrefi, trefi a dinasoedd, yn pwysleisio eu bod nhw'n ddadleuwyr heddychlon dros yr achos.

Roedd y ddau ymgyrch yn digwydd yr un pryd, ond hyd yn oed heddiw, yr un filwriaethus sydd yn derbyn y cyhoeddusrwydd.

Image caption National Union of Women's Suffrage Societies - rhain oedd y protestwyr heddychlon oedd yn ymgyrchu dros hawl merched i gael y bleidlais

Gwleidydda

Roedd merched wedi bod yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru ers sawl degawd. Roedd rhai wedi cael eu hethol i fyrddau ysgolion a oedd yn rheoli addysg, ers yr 1870au.

Pan gafodd y gyfraith ei gwneud yn gliriach, fel bod trethdalwyr benywaidd yn cael pleidleisio ac ymgeisio mewn etholiadau lleol yn 1894, cafodd mwy eu hethol i gyrff llywodraeth leol eraill.

Yn 1910, cafodd Gwenllian Morgan ei hethol yn Faer Aberhonddu.

Roedd gan ferched hefyd swyddogaethau pwysig o fewn pleidiau gwleidyddol; ar y pryd, roedd y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr yn flaengar yng Nghymru.

Byddai pob plaid yn trefnu merched i ganfasio a gwneud llawer o'r gwaith yn ystod etholiadau. Roedd eu hangen gan fod y swm y gallai'r pleidiau ei wario ar yr etholiad yn cael ei gyfyngu, a bod llafur rhad ac am ddim y merched yn cadw olwynion y pleidiau i droi.

Yn Rhagfyr 1910, gwrthododd merched rhyddfrydol yng Nghaerdydd weithio i ymgeisydd oedd yn erbyn rhoi'r bleidlais i ferched. O ganlyniad, collodd ei sedd.

Ymunodd rhai merched â'r cymdeithasau a'r pleidiau sosialaidd bach gafodd eu sefydlu yng Nghymru o'r 1880au - yn eu plith oedd Elizabeth Andrews o Ddowlais a Rose Davies o Aberdâr. Y sefydliadau yma oedd sail y Blaid Lafur pan gafodd ei chreu yn 1900.

Roedd rhaid i'r symudiad egnïol hwn aros tan ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn llwyddo yn ei amcan. Yn ystod y rhyfel, gohiriodd y rhan fwyaf o ferched eu hymgyrch. Ond doedd hi ddim yn bosibl anwybyddu'r gwaith pwysig wnaeth y merched gydol y rhyfel, a doedd dim diben, bellach, i wrthod eu hawliau.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Hanes y ddynes gyntaf i sefyll etholiad Seneddol yng Nghymru (Post Cyntaf, BBC Radio Cymru)

Yn 1918 cawson nhw'r hawl i bleidleisio, ond dim ond os oedden nhw'n 30, yn berchen ar dŷ neu wedi priodi perchennog tŷ. Ar y llaw arall, yr unig amod i ddyn oedd ei fod yn 21. Dim ond yn 1928 cafodd y merched yr hawl i bleidleisio ar yr un amodau â dynion.

Heddiw

Heb os, cafodd gweithredoedd y merched yma ddylanwad anferthol ar rôl y ddynes o fewn y byd gwleidyddol yng Nghymru. Yn 1929, cafodd Megan Lloyd George ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn - y ddynes gyntaf i gynrychioli Cymru yn San Steffan.

Erbyn heddiw mae nifer o ferched yn cynrychioli Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, San Steffan a Senedd Ewrop - a merched yw arweinwyr Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Yn sicr, fyddai hynny ddim wedi bod yn bosib heb frwydro di-ddiwedd y merched a oedd yn mynnu'r hawl i gael pleidleisio dros bethau a fyddai'n effeithio arnyn nhw.

Image caption Megan Lloyd George, AS benywaidd cyntaf Cymru

Nôl yn 1910, ataliodd un o gynghorwyr Aberhonddu, CW Best, ei bleidlais pan gafodd Gwenllian Morgan ei hethol yn Faer, gan nad oedd o'r farn fod cael merched mewn swyddi cyhoeddus o les o gwbl i'r gymuned.

Tybed beth fyddai ei farn ef am y sefyllfa heddiw?