Ydy adeiladau newydd yn dda neu'n ddrwg i Gymru?

sdss Image copyright Lewis Clarke/Geograph

Mae tirlun Cymru yn newid. Dros y blynyddoedd diwetha' mae nifer o'n hadeiladau hanesyddol wedi diflannu neu wedi eu haddasu. Ar y llaw arall, mae nifer o adeiladau trawiadol newydd wedi eu codi. Oes yna beryg' ein bod ni'n dal gafael gormod ar bensaernïaeth y gorffennol ar draul creu gwlad fodern, hyderus?

Mae gan Harry James o Aberystwyth brofiad helaeth mewn pensaernïaeth. Mae'n rhannu ei farn gyda Cymru Fyw am y datblygiadau diweddara' yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd:


Mae'n faes mympwyol fan hyn wrth gwrs, achos beth yw 'da'? Mae da i un person yn wael i berson arall.

Mae bosib gor-gadw, ond dyle bod man canol i gadw'r pethau gorau a chael rhyw fath o reolaeth ar be' sy'n digwydd o fewn yr adeiladau 'na.

Mae 'na ambell i ddatblygiad ble mae gorchymyn gorfodaeth (compulsory purchasing) wedi golygu bod tai, neu terrace o dai fel yma yn Aberystwyth, yn diflannu i wneud lle i archfarchnad fawr.

'Falle bod gormod o adeiladau hefyd wedi eu rhestru dan broses y corff treftadaeth Cadw. Er enghraifft, roedd 'na gyfnod pan roedd Cadw'n rhestru bron pob capel oedd yn sefyll ar ei draed. Mae peryg yn hynny achos dyw'r capeli eu hunain ddim yn ffynnu ac yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.

Image caption Harry James, pensaer sy'n byw yn Aberystwyth

Os 'di adeiladau yn cael eu rhestru mae cyfyngiadau ar botensial eu defnydd ac fe allai olygu eu bod yn anoddach i'w gwerthu.

Y broblem wedyn yw bod yr adeiladau yn cael eu hesgeuluso a'r costau cynnal a chadw yn cynyddu i'r pwynt nad oes dewis ond eu dymchwel. Mae hynny yr un mor niweidiol â'u gwerthu nhw i rhyw ddefnydd arall.

Achub capel

Er hynny mae angen rheoli sut mae pobl yn troi adeiladau hanesyddol fel capeli i dai annedd neu westai a sicrhau eu bod yn gweddu i'w hamgylchedd ar eu newydd wedd.

Y broblem fawr yw bod y pwerau masnachol yn rheoli cymaint o bethe ac yn gallu mynd drwy reolau cynllunio wrth ystyried tafarndai ac archfarchnadoedd newydd.

Yn Aberystwyth mae capel sydd wedi ei droi yn dafarn, Yr Academi. Mae gen i ffrindiau wnaiff ddim mynd yno ac yn teimlo'n anesmwyth gweld y Deg Gorchymyn ar y wal mewn tafarn, ond dwi ddim yn ei ffeindio hi'n anodd mynd yno mae rhaid cyfaddef.

Roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael ac yn dechrau mynd yn anniogel. Penderfynodd cwmni ei droi'n dafarn a buddsoddi yn y strwythur a gwneud newidiadau mewnol. Mae'r capel yn dal i edrych 'run fath ag oedd e ond ei fod e wedi cael ei oleuo'n wahanol. Felly gallwch ddweud bod yr adeilad wedi ei achub.

Image caption Tafarn Yr Academi yn Aberystwyth

Gwella Caerdydd

Dwi'n ofni'r broses o raddio a rhestru gormod o adeiladau, ond ar y llaw arall does dim digon o reolaeth i stopio'r pwerau masnachol mawr 'ma rhag gwneud fel ag y mynnon nhw. Mae'n anodd iawn i'r awdurdodau cynllunio reoli o fewn y rheolau sydd ganddyn nhw - mae fwy o bwerau o fewn y parciau cenedlaethol wrth gwrs.

Mae'r Aes yng Nghaerdydd yn enghraifft. Gallwch ddweud bod datblygiad canolfan Siopau Dewi Sant 2 a'r fflatiau sydd yno wedi gwella'r ardal. Adeilad digon hyll oedd yno cynt - maes parcio a swyddfeydd. Ond os awn ni nôl ddegawdau cyn hynny mae'n bosib bod adeilad braf ei olwg yno.

Allwn ni ddim sefyll yn yr unman, mae rhaid galluogi datblygiadau a chreu pensaernïaeth newydd. Mae eisiau creu treftadaeth newydd i'n plant ac i blant ein plant ei werthfawrogi. Mae hyn y dod lawr i safon cynllunio a dylunio.

Wrth gwrs, does dim du a gwyn, cywir neu anghywir yn y maes pensaernïol ond fe ddylai'r awdurdodau cynllunio gael rhagor o ddylanwad ar y datblygiadau sy'n gweld golau dydd.

Mae rhaid creu lle i benseiri ifanc brofi bod yna bensaernïaeth newydd sy'n ddigon deiniadol a phwrpasol. Dyw popeth newydd ddim yn hyll, ac mae hi'n bosib i bensaernïaeth newydd weddu yn dda ynghanol adeiladau haesyddol. Mae'r Aes yn enghraifft dda achos bydde neb yn gallu rhoi achos 'mlaen i chwalu treftadaeth yr arcades.

Image copyright Steve Daniels/Geograph
Image caption Y newydd a'r hen yn yr Aes yng Nghaerdydd

Parch i'r adeiladau

Mae angen anghofio am y pethe negyddol a meddwl yn bositif a rhoi mwy o barch ac amser i safon ein pensarnïaeth fel sy'n digwydd yng ngwledydd Llychlyn. Yno, mae dylunio adeiladau yn hynod bwysig ac maen nhw'n fodlon rhoi pres mawr i sicrhau safon.

Ma'u hagwedd at ddylunio'n dechrau gydag adeiladau ac yn ymestyn hyd at ddodrefn, cyllyll a ffyrc a lliw'r carpedi. Byddai hi'n braf meddwl y byddai'n bosib' i ni'r Cymry sefyll ar wahân i weddill gwledydd Prydain a chynnal safon sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yng ngwledydd Llychlyn. Does dim rhaid iddo gostio ffortiwn.

Rhaid cofio mai nid bocs i ddal pobl neu nwyddau yw adeilad. Pob tro mae adeilad newydd yn mynd lan mae'n effeithio ar y gofod o'i gwmpas ac ar eich golwg chi o'r lle, y golau sy'n dod mewn a'r awyrgylch o gwmpas yr adeilad - mae'n dylanwadu yn fawr ar fywydau pobl ac mae eisiau rhoi mwy o barch iddo fe.