Y Bencampwriaeth: Leeds United 1-4 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch Caerdydd i sicrhau dyrchafiad o'r bencampwriaeth yn parhau ar ôl trechu Leeds United yn Elland Road.
Roedd yr Adar Gleision dair gôl ar y blaen erbyn yr egwyl wedi i Callum Paterson, Junior Hoilett a'r capten Sean Morrison rwydo.
Daeth unig gôl y tîm cartref ar ôl i Sol Bamba roi'r bêl yn ei rwyd ei hun, ac roedd yn rhaid i Leeds chwarae gyda 10 dyn ar ôl i Gaetano Beradi gael cardyn coch.
Fe sgoriodd Anthony Pilkington y bedwaredd gôl ym munudau olaf y gêm.
Mae'r triphwynt yn golygu bod Caerdydd yn bedwaredd yn y tabl ac mae record 100% cyn-reolwr Leeds Neil Warnock ers gadael Elland Road yn parhau gyda phumed buddugolaeth o'r bron yn y gynghrair.
Dywedodd Warnock mai dyma oedd un o'r perfformiadau gorau gan Gaerdydd ers iddo gael ei benodi'n rheolwr, a bod pethau'n argoeli i wella eto ar ôl i bum chwaraewr newydd ymuno â'r clwb yn ffenestr drosglwyddo mis Ionawr.
"Rwy'n meddwl ein bod yn gryfach nawr," dywedodd.
"Mae gyda ni siawns dda - rydym yn anelu am y gemau ail-gyfle ond fe wnawn ni'n gorau [i fynd am ddyrchafiad]."