Uwch Gynghrair: Caerlŷr 1-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Abertawe bwynt da oddi cartref yn erbyn Caerlŷr, gan ymestyn rhediad diguro'r tîm ym mhob cystadleuaeth i saith gêm.
Jamie Vardy oedd y cyntaf i sgorio wedi 17 munud yn Stadiwm King Power, a Chaerlŷr gafodd y gorau o'r hanner cyntaf.
Ond fe dalodd Caerlŷr yn ddrud ar ôl methu sawl cyfle i ymestyn y fantais gan fod perfformiad yr Elyrch yn gryfach wedi'r egwyl.
Federico Fernandez wnaeth unioni'r sgôr gyda pheniad o gic gornel Ki Sung-yueng wedi 53 munud.
Mae Abertawe yn 17fed yn y tabl wedi'r canlyniad.
Dywedodd y rheolwr Carlos Carvalhal ei fod yn hapus gyda phwynt.
"Fe gawsom ni hanner cyntaf gwael ond yna fe aethon ni ati i gywiro pethau."
Gartref yn Stadiwm Liberty fydd dwy gêm nesaf yr Elyrch - yn erbyn Notts County yng Nghwpan FA Lloegr a Burnley yn yr Uwch Gynghrair