Dros flwyddyn cyn gallu ailagor cartref nyrsio wedi tân

Yr Hen Ficerdy, Pandy Tudur

Gallai preswylwyr cartref nyrsio ger Llanrwst orfod treulio o leiaf blwyddyn mewn llety dros dro ar ôl i dân difrifol eu gorfodi i symud.

Bu'n rhaid i 26 o bobl oedrannus adael yr Hen Ficerdy ym Mhandy Tudur wedi'r tân ar 18 Ionawr.

Mewn cyfarfod yn Llangernyw i drafod y camau nesaf, fe fynegodd rhai o'r perthnasau bryder am effaith yr ail-gartrefu ar eu hanwyliaid, sydd bellach yn byw ar wahân i'w ffrindiau.

Gan fod nifer yn siaradwyr Cymraeg mae pryder hefyd fod y gymdeithas Gymraeg oedd yn y cartref wedi'i chwalu.

Cafodd saith o bobl eu hachub o'r adeilad, a bu'n rhaid i chwech gael triniaeth ysbyty at effeithiau anadlu mwg.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd fod ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu mai offer trydanol wnaeth achosi'r tân.

Yn y cyfarfod nos Iau, fe ddywedodd perchnogion y cartref eu bod yn benderfynol o adfer ac ailagor y cartref ond fe allai'r gwaith gymryd misoedd.

Mae rhannau mawr o'r to wedi syrthio ym mhrif ran yr adeilad, ac mae'r llawr cyntaf wedi ei ddifrodi'n sylweddol.

'Gofyn am fynd adre'

Mae mam Lilian Williams yn 93 oed ac yn dechrau setlo ar ôl gorfod symud i gartref yn Y Rhyl.

"Mae hi'n well y diwrnoda' dwytha' 'ma ond mae hi fyny ac i lawr ac mae hi wedi gofyn am gael mynd adre fel roedd hi'n galw'r ficerdy yn fuan," meddai Lilian.

Image caption Dywedodd Lilian Williams bod ei mam yn gofyn am gael mynd "adre" i'r Hen Ficerdy

Dywedodd bod y gofal yn y cartref yn Y Rhyl yn "ardderchog" ond mai dim ond un aelod o staff yno sy'n siarad Cymraeg.

Roedd nain Sion Roberts o'r Bala ymhlith y preswylwyr gafodd eu cludo i'r ysbyty noson y tân.

"Roedd yn dipyn o sioc. Cafodd ei chludo i'r ysbyty rhag ofn, ond doedd hi ddim wedi brifo'n ddifrifol," meddai.

"Erbyn diwedd y dydd, roedd gwasanaethau cymdeithasol wedi dod o hyd i le iddi, mewn cartref ym Mhorthmadog.

"Roedd y gwasanaethau brys yn anhygoel mewn sefyllfa anodd gyda llawer o hen bobl fregus."

'Teimlo i'r byw'

Yn ôl y cynghorydd sir lleol Garffild Lloyd Lewis, mae pawb sy'n delio â'r sefyllfa "yn teimlo i'r byw" bod y gymuned o fewn y cartref wedi'i chwalu.

"Mae'r iaith Gymraeg yn un peth. Mae 'na bellter teithio i deuluoedd ymdopi â fo hefyd," meddai.

Image caption Mae Garffild Lloyd Lewis yn dweud mai un pryder yw'r pellter teithio i deuluoedd

"Dyna pam 'dan ni yma heno i ddod â phobl at ei gilydd, rhannu'u profiadau a hefyd i'r tîm [yng Nghyngor Conwy] glywed be' ydi pryderon pobl, be' fedrwn ni wneud i helpu a sut fedran ni gadw mewn cysylltiad yn gyson o hyn ymlaen.

"Dydan ni ddim yn mynd i fedru codi'r cartre' dros nos... felly bydd yn rhaid i ni weithio'n galed.

"Ond yn y cyfamser mae'n rhaid i ni neud yn siŵr bod y bobl oedrannus, anghenus yma'n cael y gefnogaeth a'r cymorth maen nhw angen dros y cyfnod nesa' 'ma."