Rheithgor yn ystyried dyfarniad yn achos Darren Osborne

Darren Osborne

Mae'r rheithgor yn ystyried eu dyfarniad yn achos dyn o Gaerdydd sydd wedi'i gyhuddo o ymosod ar Fwslimiaid ger mosg yn Llundain.

Bu farw un person, Makram Ali, 51, yn y digwyddiad honedig ar 19 Mehefin 2017, ac fe gafodd naw arall eu hanafu wrth iddyn nhw adael y mosg yn Finsbury Park.

Honnir bod Darren Osborne wedi taro ei fan yn erbyn nifer o bobl yn yr ardal, oedd brysur iawn gydag addolwyr yn mynychu gweddïau Ramadan.

Mae Mr Osborne, 48, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddio a cheisio llofruddio.

'Diflannu fel Dynamo'

Yn ystod yr achos mae Mr Osborne wedi cyfaddef mai ei fwriad oedd i "achosi cymaint o ddifrod â phosib".

Ond mae'n gwadu mai ef oedd yn gyrru'r fan, gan ddweud mai dyn o'r enw "Dave" oedd yn gyrru, a bod y dyn hwnnw wedi "diflannu fel Dynamo".

Image copyright Heddlu Llundain
Image caption Fe welodd y llys luniau o Darren Osborne yng nghefn fan heddlu ar ôl cael ei arestio

Yn ei haraith gloi, dywedodd Lisa Wilding QC, sy'n amddiffyn Mr Osborne, er bod ei deimladau yn "ffiaidd", bod rhaid i'r rheithgor fod yn "siŵr" mai ef oedd yn gyrru cyn penderfynu ei fod yn euog.

Dywedodd nad oedd tystiolaeth o "beth oedd bwriad y gyrrwr" a dywedodd bod bwriad Darren Osborne i "ladd ac anafu" wedi dod i ben ar ôl iddo adael ardal yr orymdaith yn Llundain.

Yn gynharach yn yr achos, fe rybuddiodd yr erlynydd Jonathan Rees QC i aelodau'r rheithgor beidio gadael i Mr Osborne "geisio eich twyllo".

Ychwanegodd fod Mr Osborne wedi'i ysgogi gan "gasineb tuag at Fwslimiaid, sydd wedi gwreiddio o wylio deunydd ar deledu ac ar-lein".

"Rydym yn awgrymu bod y diffynnydd wedi creu amddiffyniad allan o ddim," meddai.

Straeon perthnasol