Tyler Roberts yn symud o West Brom i Leeds

Tyler Roberts Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Tyler Roberts chwarae un gêm dros West Brom yn yr Uwch Gynghrair

Mae ymosodwr ifanc Cymru, Tyler Roberts wedi arwyddo i Leeds yn y Bencampwriaeth ar gytundeb pedair blynedd a hanner.

Roedd Roberts, 19, wedi bod ar fenthyg o West Brom i Walsall yn gynharach yn y tymor, gan sgorio pum gôl mewn 19 gêm.

Dyw'r clybiau heb ddatgelu union maint y ffi, ond y gred yw bod Roberts wedi symud am tua £2.5m.

Mae'r ymosodwr wedi ennill pum cap a sgorio un gôl dros dîm dan-21 Cymru, ac fe allai nawr fod yn nhîm Leeds i wynebu Caerdydd ddydd Sadwrn.

Wrth i'r ffenestr drosglwyddo gau ddydd Mercher, mae asgellwr Cymru George Williams hefyd wedi symud o Fulham yn y Bencampwriaeth i St Johnstone yn Uwch Gynghrair yr Alban ar fenthyg.

Fan arall, mae'r chwaraewr ieuengaf i ennill cap dros Gymru, Harry Wilson, wedi ymuno â Hull ar fenthyg nes diwedd y tymor ar ôl arwyddo cytundeb newydd gyda Lerpwl.

Mae'r golwr Owain Fôn Williams hefyd wedi gadael Inverness Caledonian Thistle, gan symud i Indy Eleven yn Indianapolis, yn ail haen bêl-droed UDA.

Pynciau Cysylltiedig