Uwch Gynghrair: Abertawe 3-1 Arsenal

Dathlu'r drydedd gôl Image copyright Reuters

Roedd hi'n noson i'w chofio yn Stadiwm Liberty wrth i Abertawe drechu Arsenal a sicrhau triphwynt hollbwysig i'w codi o waelodion tabl Uwch Gynghrair Lloegr.

Nacho Moreal sgoriodd gyntaf, yn mynd â'r ymwelwyr ar y blaen wedi hanner awr o chwarae, ond daeth Sam Clucas â'r Elyrch yn ôl yn gyfartal funud yn ddiweddarach.

Yng nghanol glaw trwm yr ail hanner, fe gostiodd camgymeriad difrifol gan golgeidwad y Gunners, Petr Cech, yn ddrud wrth i Jordan Ayew daro'r bêl i gefn y rhwyd i fynd â'r tîm cartref ar y blaen.

Image copyright Reuters
Image caption Sam Clucas yn dathlu ar ôl sgorio'r drydedd gôl a selio'r fuddugoliaeth

Llwyddodd Abertawe i amddiffyn yn gadarn am yr hanner awr olaf, ac fe seliodd Sam Clucas y fuddugoliaeth gyda gôl yn y munudau'n olaf.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe dan arweiniad Carlos Carvalhal wedi ennill dwy fuddugoliaeth o'r bron am y tro cyntaf y tymor hwn, ac yn bwysicach, mae'r tîm yn codi o dri gwaelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr.

Pynciau Cysylltiedig