Selby i wynebu Warrington yng nghartref Leeds United

selby Image copyright Getty Images
Image caption Hon fydd y pumed gwaith i Selby amddiffyn ei deitl IBF

Stadiwm Elland Road - cartref tîm pêl-droed Leeds United - fydd lleoliad gornest nesaf Lee Selby wrth iddo amddiffyn ei deitl byd pwysau plu yn erbyn Josh Warrington ar 19 Mai.

Dyma fydd y pumed gwaith i'r Cymro amddiffyn ei deitl IBF ers 2015.

Dywedodd Selby ei fod yn bwriadu "rhoi gwers focsio" i'w wrthwynebydd, sy'n dod o Leeds.

"Nid yw cynnal yr ornest i ffwrdd o'm cartref yn fy mhoeni o gwbl," dywedodd.

"Fe fydd hon yn ornest fawr, ac mae'n gwneud synnwyr perffaith i'w chynnal mewn cae pêl-droed."

Image caption Dyma fydd yr ornest focsio gyntaf i gael ei chynnal yn stadiwm Elland Road

Ychwanegodd Selby ei fod yn gobeithio y bydd buddugoliaeth yn erbyn Warrington ar ei domen ei hun yn arwain at ornest gyda Carl Frampton yn Belfast cyn ddiwedd y flwyddyn.

Mae gan Warrington record ddi-guro wedi 26 o ornestau, tra bod Selby wedi ennill 26 o ornestau a cholli un.

Pynciau Cysylltiedig