Penydarren i herio Bangor yn wyth olaf Cwpan Cymru
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, CBDC
Mae'r enwau wedi'u tynnu o'r het ar gyfer rownd wyth olaf Cwpan Cymru.
Mae tair o'r gemau rhwng timau o Uwch Gynghrair Cymru.
Mae taith hir i'r gogledd yn wynebu Penydarren BGC, sy'n cystadlu ym mhumed haen pêl-droed Cymru, wrth iddyn nhw ymweld â Bangor.
Gemau'n llawn:
Caerfyrddin v Aberystwyth
Llandudno v Y Drenewydd
Cei Connah v Y Seintiau Newydd
Bangor v Penydarren BGC