Gemau oddi cartref i'r Cymry yng Nghwpan FA Lloegr
- Cyhoeddwyd
Dwy gêm oddi cartref sy'n wynebu'r ddau dîm o Gymru sydd ar ôl yng Nghwpan FA Lloegr, os bydden nhw'n llwyddiannus yn eu hail gemau.
Yn dilyn gemau cyfartal yn y bedwaredd rownd, bydd Casnewydd yn teithio i Wembley i chwarae yn erbyn Tottenham eto, a bydd Abertawe yn chwarae Notts County yn Stadiwm Liberty am le yn y bumed rownd.
Os bydd Casnewydd yn ennill, taith i Millwall neu Rochdale fydd yn eu hwynebu, gyda'r ddau dîm yma hefyd angen ail-chwarae wedi gêm gyfartal.
Mae gêm oddi cartref yn Sheffield Wednesday, sef cyn-glwb rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal yn disgwyl enillwyr y gêm rhwng yr Elyrch a Notts County.
Mae Caerdydd eisoes allan o'r gystadleuaeth ar ôl colli o 2-0 yn erbyn Manchester City ddydd Sul.
Bydd y gemau yn cael ei chwarae ar benwythnos 17 Chwefror.
Straeon perthnasol
- 28 Ionawr 2018
- 27 Ionawr 2018
- 27 Ionawr 2018