Gwahodd cynlluniau band eang cyflym newydd i Gymru

band eang

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n gwahodd cwmnïau i geisio am gytundebau a helpu sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael i ganran uwch o bobl Cymru.

Fe gyhoeddodd Julie James, y gweinidog sy'n gyfrifol am seilwaith digidol Cymru, yr wythnos ddiwethaf y byddai cynllun newydd "yn cael ei deilwra i wahanol anghenion" gwahanol ardaloedd.

Y nod yw targedu 98,000 o leoliadau nad yw cynllun Superfast Cymru wedi eu cyrraedd hyd yn hyn.

Yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi gan wefan thinkbroadband.com ddydd Llun, tua 94% o gartrefi a busnesau Cymru sy'n elwa o wasanaeth band eang cyflym ar hyn o bryd.

'Her eithriadol'

Dywedodd Ms James wrth bwyllgor economi'r Cynulliad ddydd Iau diwethaf y bydd y cynllun newydd yn mynd i'r afael â'r ffaith bod "problemau penodol yn wynebu gwahanol ardaloedd o Gymru".

Ychwanegodd y bydd y drefn newydd ar sail cytundebau llai, yn hytrach nag un cytundeb ar gyfer Cymru gyfan fel yn achos Superfast Cymru.

Roedd BT Openreach, meddai, "wedi gwneud gwaith da" wrth weithredu a datblygu'r cynllun hwnnw, a'i fod yn "debyg fod 96% o'r targed wedi ei gyrraedd".

Ond roedd hi'n derbyn bod rhai pobl sy'n dal heb wasanaeth cyflym yn siomedig.

Image copyright BT
Image caption Bu'n rhaid defnyddio drôn i ddarparu gwasanaeth band-eang i 20 o dai a busnesau ym Mhontfadog ger Llangollen

Mae disgwyl i Ms James gyhoeddi manylion y cynllun newydd yn y Senedd ddydd Mawrth.

Mae ACau sy'n cynrychioli etholaethau gwledig - gan gynnwys AC Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Angela Burns - wedi mynegi pryderon ynglŷn ag oedi sy'n golygu bod rhai pobl heb gael gwasanaeth band eang cyflym cyn i Superfast Cymru ddod i ben ddiwedd Rhagfyr.

Dywedodd llefarydd ar ran BT Openreach bod nifer y tai a'r busnesau ar draws Cymru sy'n derbyn gwasanaeth ar gyflymdra dros 30Mbps yn "uwch o lawer na'r hyn oedd wedi ei gynllunio'n wreiddiol dan y cytundeb".

Ychwanegodd eu bod wedi datgan yn glir o'r dechrau nad oedd disgwyl i'r rhaglen gyrraedd pob eiddo, a bod rhaid hepgor rhai ardaloedd oherwydd y cymhlethdodau a'r amser y byddai'n ei gymryd i'w cysylltu.

Ond roedd y cynllun, meddai, yn un "eithriadol o heriol" ac roedd eu peirianwyr wedi gweithio'n galed i gyrraedd nifer o gymunedau gwledig, anghysbell.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol