Ymosodiad Bangor: Carcharu dyn o Ynys Môn

Joseph Sean Ryan Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Roedd Joseph Sean Ryan, 32 oed, wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol

Mae dyn o Ynys Môn wedi ei garcharu am 30 mis yn dilyn ymosodiad difrifol ym Mangor ym mis Rhagfyr.

Roedd Joseph Sean Ryan, 32 oed, wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol i ddyn 77 oed.

Fe wnaeth Paul Jones, ddioddef anafiadau difrifol wedi'r ymosodiad yn Nheras Plas Llwyd yn hwyr brynhawn Llun 18 Rhagfyr.

Roedd ei anafiadau mor ddifrifol bu'n rhaid ei drosglwyddo i ysbyty arbenigol yn Stoke.

Dywedodd yr heddlu fod Ryan yn droseddwr cyson, a bod "ein cymunedau yn llefydd llawer mwy diogel" gan ei fod dan glo.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol