Llofruddiaeth Bangor: Dod ag achos llys i ben

Betty Jordan Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Bu farw Betty Jordan ar 31 Gorffennaf y llynedd

Mae'r rheithgor yn achos llofruddiaeth dynes o Fangor wedi cael eu hanfon adref, ar ôl i'r barnwr ddirwyn yr achos i ben.

Roedd Paul Jordan, 54, o'r Felinheli wedi cyfaddef lladd Betty Jordan, 53, ym mis Gorffennaf 2017 ond roedd yn gwadu llofruddiaeth ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Roedd Mr Jordan wedi ei gyhuddo o yrru i'r cartref priodasol ym Mangor am ei fod yn credu bod ei wraig yn cael perthynas gyda rhywun arall, cyn ei lladd yn yr ystafell wely.

Fe fydd gwrandawiad yn cael ei drefnu maes o law i benderfynu trywydd yr achos.

Pynciau Cysylltiedig