Yr eglwys a'r Gymraeg: 'Dechreuad' ond mwy i'w wneud

Andy John

Mae swydd newydd i hybu'r Gymraeg o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn "ddechreuad" ond mae mwy o waith i wneud, yn ôl un o esgobion Cymru.

Roedd Esgob Bangor, Andy John yn siarad wrth i'r Eglwys chwilio am gyfarwyddwr i'w cenhadaeth Gymraeg.

Daw wrth i'r eglwys gael trafferth dod o hyd i reithoriaid mewn rhai ardaloedd - fel y Bala - sy'n medru gwasanaethu drwy'r iaith.

Esgob Bangor yw'r unig un o esgobion Cymru sy'n rhugl ei Gymraeg.

Codi safonau

Wrth siarad ar Newyddion 9, dywedodd Esgob Bangor bod creu'r rôl newydd yn gam ymlaen: "Dyw e ddim yn ddigonol, ond mae'n ddechreuad."

Ychwanegodd: "Rhaid sicrhau bod pobl sy'n dod i mewn yn gallu cael cymorth i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, does dim digon o bobl sydd â sgiliau digonol, ond y gobaith yw i sicrhau bod y safon yn codi."

Un ardal sy'n gweld yr angen yw'r Bala, sydd wedi bod heb reithor ers yr haf.

Dywedodd Cass Meurig, pregethwr lleyg yn Eglwys Y Bala, bod hynny'n golygu "mwy o waith i bobl lleyg i redeg pethau".

"Bydde'n anodd iawn i'r eglwys hon i gael rhywun di-Gymraeg oherwydd bod pobl yn hoffi addoli yn eu mamiaith, a hefyd er mwyn cysylltu'n iawn gyda'r gymuned ac annog pobl yn eu ffydd."

Image caption Dywedodd Nia Wyn Morris mai ei chenhadaeth sydd bwysicaf iddi hi

Daeth rheithoriaid a swyddogion eraill at ei gilydd mewn cynhadledd eglwysig yn Ewlo ddydd Iau.

Yn ôl un fu'n rheithor ar Y Bala am ddegawd, mae na arwyddion bod yr Eglwys yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg.

Ond mae'r Parchedig Ganon Nia Wyn Morris yn dweud mai ei chenhadaeth - ac nid yr iaith - sydd wedi llunio ei llwybr hi.

"Dwi'm yn meddwl amdana fo yn nhermau iaith oherwydd o'r cychwyn dwi'n gwbod mai galwedigaeth fi ydy offeiriadaeth, a hwnnw sy'n dod gynta'."

Ychwanegodd: "Mae o'n bwysig i mi, a dwi wrth fy modd yn gweinidogaethu yn Gymraeg, ond os ydy o'n gwestiwn o weinidogaethu mewn plwyf bach neu bod mewn tre' fawr dwin gwybod be' dwi'n ddewis."