Heddlu'n apelio wedi gwrthdrawiad angheuol M4

heddlu

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth wedi i berson farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 nos Iau.

Cafodd yr heddlu eu galw am 19:10 i wrthdrawiad un car ar y lon ddwyreiniol, rhwng cyffordd 46 Llangyfelach a 45 Ynysforgan.

Bu farw teithiwr yn y car Ford KA ac fe gafodd y gyrrwr ei gludo i Ysbyty Treforys am driniaeth.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un welodd y ffordd oedd car Ford KA yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw ar 101.