josh tarling beicio
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cardi'n bencampwr seiclo Prydain

25 Ionawr 2018 Diweddarwyd 07:54 GMT

Mae bachgen 13 oed o Geredigion wedi ennill pencampwriaeth seiclo traws-gwlad Prydain dan 14 oed.

Daeth Josh Tarling i'r brig yng nghystadleuaeth HSBC National Cyclo-Cross ar Ionawr 14, oedd yn cael ei drefnu gan corff rheoli'r gamp, British Cycling.

Mae'r disgybl blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Aberaeron hefyd yn aelod o gynllun datblygu ieuenctid Seiclo Cymru.