Cwmni theatr newydd eisiau clywed 'lleisiau'r cymoedd'

Gwawr ac Elin Image copyright Gruffudd Pritchard
Image caption Fe astudiodd Gwawr Loader (chwith) ac Elin Phillips (dde) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd

Mae dwy actores ifanc wedi sefydlu cwmni theatr newydd yn y gobaith o "bortreadu lleisiau sydd ddim yn cael eu cynrychioli".

Megis dechrau mae Criw Brwd, sy'n cynnwys y ffrindiau Elin Phillips a Gwawr Loader, ond mae'r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn "ffafriol".

Yn ogystal â gweld bod ganddyn nhw debygrwydd o ran hiwmor a chwaeth, rheswm arall am greu'r cwmni dwyieithog oedd i roi platfform i leisiau sydd ddim i'w clywed ryw lawer.

"Mae'r ddwy ohonom ni yn dod o'r de ddwyrain ac fe hoffwn i weld hwnna yn cael ei gynrychioli fwy ar lwyfan theatrau Cymru," meddai Elin Phillips.

Mae'r cwestiwn pam nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd yn un "diddorol" meddai Gwawr Loader, a gafodd ei magu ym mhentref Mynwent y Crynwyr ger Merthyr Tudful.

"Mae'n siŵr wrth i bobl fod yn gweithio ar ddarne', maen nhw'n gweithio ar rywbeth sydd yn siarad yn specific iddyn nhw."

Image copyright Gruffudd Pritchard
Image caption Gobaith Elin a Gwawr yw "creu gwaith cyfoes, dwyieithog, sydd yn adlewyrchu bywyd yn ne Cymru fel ag y mae heddiw"

Cynhyrchiad cyntaf Criw Brwd fydd drama Chloe Moss, Christmas is Miles Away wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg.

Tra bod y ddrama wreiddiol wedi ei lleoli ym Manceinion, mae'r merched wedi penderfynu lleoli eu cynhyrchiad nhw yn y cymoedd.

Yn ystod gweithdy diweddar gyda disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gyfun Rhydywaun cafodd y drafft cyntaf ei drafod, gydag ymateb cadarnhaol.

"Odd un o'r disgyblion yn dweud, 'O mae'n rili neis gweld fy hun a gallu uniaethu gyda chymeriad fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg'," meddai Ms Loader.

Bwlch yn bodoli

Yn ôl Ms Phillips mae'r sîn theatr yng Nghymru yn "gyffrous" ar hyn o bryd, yn enwedig yng Nghaerdydd lle mae nifer o gwmnïau bach wedi ffurfio, fel Cwmni Pluen a Gagglebabble.

"Mae sawl un o'r theatrau mawr yng Nghymru yn gwneud gwaith gwefreiddiol ar lwyfannau rhyngwladol.

"Ni wedi ffurfio cwmni bach, ni eisiau gwneud gwaith sydd yn eitha' intimate ag sydd yn siarad i ni fel actorion.

"Ni wedi cael profiad gwerthfawr iawn o weithio gyda Sherman a Theatr Clwyd a'r Theatr Genedlaethol.

"Ond o'n i jyst yn teimlo bod 'na fwlch cael lleisiau o dde'r cymoedd yn cael eu cynrychioli ar lwyfan a dyna beth ni'n hoffi gweld."

Image copyright Gruffudd Pritchard
Image caption Nos Sul roedd darlleniad cyntaf o ddrama Christmas is Miles away yn y Gymraeg gyda'r actorion Aron Cynan (ail o'r chwith), Emily John (trydydd o'r chwith), Gruff Harries (trydydd o'r dde), gyda Siôn Pritchard (ail o'r dde) yn cyfarwyddo

Llynedd fe alwodd Manon Eames, cadeirydd Pwyllgor Cymru Undeb Awduron Prydain am adolygiad o sut mae'r iaith Gymraeg yn cael ei chefnogi yn y byd theatr yng Nghymru gan ddweud bod "diffyg darpariaeth Gymraeg i sgriptwyr a dramodwyr y wlad".

Yw'r sefyllfa wedi gwella erbyn hyn felly?

"Fel cwmni newydd be ni moyn 'neud yw creu theatr sydd yn driw i'n syniade' ni a bod ni'n gallu creu gweithle hapus, saff, cynhwysol, positif yng Nghaerdydd," meddai Ms Loader.

"Ac mae 'na lot o gwmnïau sydd yn teimlo yr un peth fi'n meddwl, a all hynny ond bod yn beth da."

Creu 'gwaith newydd'

Nos Sul roedd y darlleniad cyntaf o Christmas is Miles Away yn y Gymraeg gan ddefnyddio actorion ifanc sydd newydd ddechrau eu gyrfaoedd.

Roedd cynulleidfa fechan wedi ei gwahodd gan gynnwys actorion, ysgrifenwyr a chynhyrchwyr, gyda'r adborth meddai Criw Brwd yn dda.

Y gobaith yn y pendraw fydd ysgrifennu dramâu ond maen nhw'n hapus ar hyn o bryd i barhau i sefydlu eu hunain.

"Mae 'na ofyn mawr am waith newydd," meddai Ms Loader.

"A fel cwmni newydd sbon falle bod ni angen magu bach o hyder cyn mynd mewn i greu gwaith ein hunain.

"Yn y dyfodol fi'n credu mai na dyna fydden ni eisiau neud yw creu gwaith gwreiddiol. Ond ar hyn o bryd fel cwmni newydd ni jyst yn dechrau arbrofi."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol