Isetholiad ymhen llai na phythefnos

jack sargeant
Image caption Cafodd Jack Sargeant ei ddewis gan Llafur Cymru fel ymgeisydd

Mae hi'n wlyb ac yn wyntog ar stad o dai ym Mrychdyn.

Go brin y byddai Jack Sargeant wedi dychmygu y byddai'n treulio bore ym mis Ionawr yn curo ar ddrysau dan faner y Blaid Lafur.

Dyma'r tro cyntaf i ni gyfarfod. "Sut wyt ti, ti'n cadw'n iawn?" medda fo, cyn i mi allu holi sut oedd o. 'Dwi dal yn cofio ble'r oeddwn i tua'r un amser o'r bore ar 7 Tachwedd pan glywes i fod ei dad wedi lladd ei hun.

Ar garreg y drws does dim osgoi clywed enw Carl Sargeant, cymysgedd o gwestiynau a chydymdeimlo. Yn y galar mae'r sgyrsiau yn gallu bod yn gysur, fel yr un gafodd Jack Sargeant gyda chyn-athro ysgol gynradd ei dad.

Ond mae gwleidyddiaeth hefyd yn gêm galed - er waethaf eu parch amlwg at ei golled mae pedair plaid arall yn y ras sy'n golygu bod yn rhaid i Jack Sargeant wneud mwy na hel atgofion.

Mae amgylchiadau'r farwolaeth yn gefndir i'r cyfan ac yn fan cychwyn amlwg.

"Mae 'na lot o boen a dicter yn yr etholaeth ynglŷn â marwolaeth fy nhad," medd Jack Sargeant. "Mae gan un ymhob tri rhywbeth cadarnhaol i ddweud am yr hyn wnaeth o drostyn nhw."

Ond mae yna awydd amlwg i dorri ei gwŷs ei hun: "Wrth gwrs dwi'n awyddus i barhau a gwaith dad ond mae gen i brofiadau fy hun hefyd a syniadau dwi'n awyddus i roi ar waith. Addysg a sgiliau fydd fy mlaenoriaeth i."

Image caption Pleidleisiodd Alun a Glannau Dyfrdwy o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd

Pynciau trafod eraill

Mae natur yr isetholiad wedi tynnu'r elfen bersonol i ffwrdd o'r ymgyrchu. Yn eu swyddfa ar stryd fawr Bwcle mae selogion y Democratiaid Rhyddfrydol yn trafod Brexit mewn ardal bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae'r ymgeisydd Donna Lalek yn cydnabod elfen unigryw'r etholiad.

"Mae gan nifer o bobol bethau da iawn i'w ddweud am Carl Sargeant ond dydi hynny ddim yn golygu eu bod nhw o reidrwydd yn hapus gyda'r blaid Lafur yn gyffredinol," meddai.

"Mae pobol wedi blino gyda phopeth yn mynd i Gaerdydd, ddylen ni ddim talu'r un faint mewn trethi er mwyn derbyn llai o wasanaethau"

Y Ceidwadwyr ddaeth yn ail yn etholiad 2016 ac mae tacteg Sarah Atherton yn amlwg, addysgu'r bobol bod y gwasanaeth iechyd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru.

"Mae pawb yn siarad am yr NHS a Betsi Cadwaladr. Y neges ydi bod y Blaid Lafur yn gyfrifol am reoli'r gwasanaeth iechyd ac yn ei gamreoli. Mae pobol yn mynnu ein bod ni yn cael bargen wael yn y gogledd o gymharu â'r de."

Ger y ffin â Sir Gaer, roedd Carrie Harper ar strydoedd Saltney, hen law ar gystadlu etholiadau. Roedd hi'n ceisio perswadio rhywun bleidleisiodd dros Blaid Cymru yn y gorffennol i wneud hynny eto.

"Mae pennau'r Blaid Lafur yn y tywod. Maen nhw wedi rheoli'r gwasanaeth iechyd am bron i ugain mlynedd ac mae ganddo ni bolisïau i hyfforddi mil o ddoctoriaid, pum mil o nyrsys a sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd"

Dywedodd y fenyw bod hi'n ystyried rhoi ei phleidlais iddi.

Mewn llai na phythefnos bydd pawb yn gorfod gwneud penderfyniad tebyg mewn etholiad ar ddydd Mawrth ym Mis Chwefror. Cyfuniad anarferol ond mae hon yn etholiad doedd neb yn ei disgwyl ac fe all yr enillydd fod wedi colli mwy na phawb arall.

Rhest lawn o'r ymgeiswyr yn isetholiad Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy:

  • Llafur Cymru - Jack Sargeant
  • Plaid Cymru - Carrie Harper
  • Ceidwadwyr - Sarah Atherton
  • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Donna Lalek
  • Y Blaid Werdd - Duncan Rees

Pynciau Cysylltiedig