Enwebiad i ffilm Gymraeg myfyriwr am fywyd fferm deuluol

Meleri Morgan Image copyright Prifysgol Cymru Aberystwyth
Image caption Mae Meleri Morgan yn hyfforddi i fod yn athrawes ddrama

Mae ffilm ddogfen fer Gymraeg am fywyd teuluol mewn pentref gwledig ger Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Teledu Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru.

Fe gynhyrchodd Meleri Morgan Dwy Chwaer a Brawd y llynedd fel prosiect blwyddyn olaf cyn graddio mewn Drama ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r ffilm, sydd wedi ei henwebu yn y dosbarth ffeithiol, yn cael ei disgrifio fel portread dadlennol o fywyd "tri chymeriad arbennig a hoffus iawn" yn eu 80au a 90au.

Dywedodd Ms Morgan, sydd o Fwlch-llan ger Tregaron, bod yr enwebiad wedi ei "synnu'n fawr".

"Pan chi'n gweithio'n galed i orffen darn o waith prifysgol mae'r agwedd greadigol yn gallu diflannu gan eich bod yn canolbwyntio cymaint ar gwblhau'r darn mewn pryd.

"Rwy'n falch bod pobl eraill yn mwynhau'r ffilm gymaint ag y gwnes i fwynhau ei gwneud."

'Cymeriadau arbennig'

"Yn syml, roeddwn yn ceisio dal y tri chymeriad yn eu cynefin.

"Mae wastad diddordeb wedi bod mewn pobl ac yn y genhedlaeth hŷn. Does dim lot o ffilmiau dogfen fel hyn."

Image copyright Meleri Morgan
Image caption Mae'r ffilm yn cynnwys golygfeydd o fywyd bob dydd ar fferm deuluol

Mae'r ffilm 15 munud o hyd yn rhoi cipolwg 'pry ar y wal' ar ddiwrnod yn hanes y ddwy chwaer a brawd wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu gwaith ar fferm deuluol.

"Rwy'n hynod o lwcus fy mod wedi darganfod y stori yma a'r cymeriadau arbennig yma.

"O'r ymateb hyd yma, mae llawer yn dweud bod modd lleoli'r stori unrhyw le yng Nghymru - mae'r golygfeydd a'r cymeriadau yn rhai mae pobl yn eu nabod."

'Rhagoriaeth'

Roedd Ms Morgan yn gyfrifol am yr holl waith camera a golygu.

Fe gafodd y ffilm ei dangos yn wreiddiol yn y Sinemaes ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern.

Mae Dwy Chwaer a Brawd eisoes wedi cael cydnabyddiaeth ar ôl ennill gwobr am y Ffilm Ryngwladol Orau gan Fyfyriwr mewn gŵyl ffilmiau yn Iwerddon fis Medi y llynedd.

Wrth groesawu enwebiad diweddaraf ei chyn-fyfyriwr, dywedodd y darlithydd Cynyrchiadau Cyfryngol, Elin Morse, ei fod yn "adlewyrchiad o ragoriaeth ei gwaith ac yn dilyn ei llwyddiant haeddiannol yng Ngŵyl Ffilmiau Dogfen Wexford".

Mae 14 o ffilmiau wedi eu henwebu mewn pum categori ac fe fydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Theatr yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, Caerdydd ar 31 Ionawr.

Pynciau Cysylltiedig