Cau ffyrdd a rheilffyrdd oherwydd llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae glaw trwm a llifogydd dydd Sul yn parhau i achosi trafferthion i deithwyr fore Llun.
Roedd prif ffordd yr A44 o Aberystwyth ynghau rhwng Llanbadarn Fawr a Gelli Angharad am fod dŵr ar y ffordd, ond cafodd y ffordd ei hail-agor ychydig cyn 09:00.
Mae ffordd y B4337 yn Nhal-sarn rhwng Llambed a Llanrhystud yng Ngheredigion, a fu ar gau yn dilyn llifogydd brynhawn Sul, bellach wedi ail-agor.
Cafodd sawl person eu hachub o'u cerbydau yn ne a chanolbarth Cymru nôs Sul, wrth iddyn nhw gael eu dal gan ddŵr ar ffyrdd.
Mae nifer o rybuddion llifogydd yn parhau mewn grym ddydd Llun.
Cadarnhaodd Trenau Arriva Cymru bod trenau wedi eu hatal rhwng y Porth a Threherbert oherwydd tirlithriad fore Llun.
Nid oes disgwyl i drenau redeg eto tan ddydd Mercher.
Yn ogystal roedd bysiau'n rhedeg yn lle trenau rhwng Maes Awyr Caerdydd a Phenybont-ar-Ogwr am gyfnod.
Cafodd y gwasanaeth tân ac achub eu galw i gynorthwyo sawl person gafodd eu dal yn y llifogydd nôs Sul.
Bu'n rhaid achub dyn o'i fan yn Nhal-sarn ger Llanbedr Pont Steffan, ac yn ôl y gwasanaethau brys roedd lefel y dŵr dros ei goesau.
Bu'n rhaid i ddynes gael ei hachub o'i char yn Llanymddyfri am 19:13, ac yn Llancarfan ym Mro Morgannwg cafodd dyn ddihangfa lwcus ar ôl i lif y dŵr sgubo ei gar a'i wthio yn erbyn pont y rheilffordd.
Cafodd y ffordd honno ei chau yn fuan ar ôl hynny.
Yn ôl adroddiadau roedd dŵr ar un adeg yn llifo i rai cartrefi yng Ngheredigion a bu rhaid gohirio oedfaon yng Nghapel y Garn, Bow Street a Chapel Horeb ym Mhenrhyn-coch.
Yn ogystal â'r canolbarth cafodd traffordd yr M4 ei chau tua'r dwyrain rhwng cyffordd 46 Llangyfelach a chyffordd 45 Ynysforgan, gydag amodau gyrru ar y ffordd yn gwaethygu yn ystod y dydd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhyddhau rhybuddion llifogydd ar gyfer ardaloedd y Borth yng Ngheredigion ac Ewenni.
Am fwy o wybodaeth am y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC.
Straeon perthnasol
- 21 Ionawr 2018
- 21 Ionawr 2018