Adran Dau: Casnewydd 2-1 Crawley
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Llwyddodd Mickey Demetriou gyda'i gic o'r smotyn
Mae Casnewydd wedi codi i'r pumed safle yn Adran Dau am y tro ar ôl trechu Crawley yn Rodney Parade.
Fe aeth yr Alltudion ar y blaen bum munud cyn yr egwyl yn dilyn peniad gan yr ymosodwr Padraig Amond.
Cafodd y fantais ei ddyblu ar drothwy hanner amser wrth i Josh Sheehan gael ei faglu yn y cwrt cosbi, gyda Mickey Demetriou yn sgorio o'r smotyn.
Ar ôl 48 munud roedd Crawley yn ôl yn y gêm wrth i ergyd Jimmy Smith wyro i gefn y rhwyd, ond er iddyn nhw bwyso am ail chawson nhw ddim lwc.