Rhodri Morgan a Gwenllian ymysg enwau llongau patrôl newydd
- Cyhoeddwyd

Mae llongau newydd fydd yn cael eu defnyddio i oruchwylio moroedd Cymru wedi eu henwi ar ôl ffigyrau gwleidyddol amlwg a phobl hanesyddol.
Ymhlith yr enwau mae Rhodri Morgan, cyn-brif weinidog Cymru a fu farw'r llynedd, a Gwenllian, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf.
Bydd y llongau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, ac fe fydd baner newydd adran gorfodi morol y llywodraeth yn cael ei ddadorchuddio gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths yn ystod y dydd.
Gwaith y llongau yw sicrhau nad yw pysgota anghyfreithlon yn digwydd ym moroedd Cymru, a gwarchod y diwydiant pysgota.
Mae disgwyl i'r FPV Rhodri Morgan a'r FPV Lady Megan, y ddau longh patrôl mwyaf, fod yn barod i'w defnyddio erbyn diwedd yr hydref.
Dywedodd Lesley Griffiths: "Bydd y cychod patrôl newydd yn ein galluogi i barhau i orfodi cyfreithiau pysgodfeydd a morol yn effeithiol ym moroedd Cymru ac yn ein helpu i ysgwyddo'n hymrwymiad i reoli'n stociau pysgod yn gynaliadwy.
"Byddan nhw'n ein helpu i ddiogelu diwydiant pysgota Cymru a'n cymunedau arfordirol yn y blynyddoedd i ddod."
Enwau'r llongau newydd yw:
- Rhodri Morgan: Y cyn-brif weinidog;
- Gwenllian: Merch Llywelyn ap Gruffydd;
- Lady Megan: Ar ôl Megan Lloyd George, yr AS benywaidd cyntaf mewn etholaeth yng Nghymru;
- Siwan: Gwraig Llywelyn Fawr;
- Catrin: Merch Owain Glyndŵr.
Straeon perthnasol
- 9 Ionawr 2018